#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Rhagarweiniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 29 Mawrth a 3 Mai, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor yn cwblhau ymchwiliad i'r goblygiadau posibl i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

29 Mawrth: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am Erthygl 50

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    3 Ebrill: Trafododd y Pwyllgor bapur ar ddyfodol polisi rhanbarthol, cafodd yr aelodau frîff gan Brif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad ar Fil y Diddymu Mawr, a thrafododd yr aelodau flaenraglen waith y Pwyllgor.

Mae'r Pwyllgor yn parhau â'i waith i ddyfodol polisi rhanbarthol ac mae wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr (yn cau heddiw).

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Cyhoeddir blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blogiau diweddaraf am Brexit yw Amcangyfrifo'r llinell amser ar gyfer deddfwriaeth Brexit, “Bil y Diddymu Mawr”: Beth yw'r goblygiadau?, a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan delerau “Sefydliad Masnach y Byd” i economi Cymru?.

Arall

29 Mawrth: Datganiad gan y Llywydd ar Lywodraeth y DU yn tanio Erthygl 50.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal yr ymchwiliad a ganlyn: Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Mae 'Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol' yn rhan benodol o gylch gorchwyl ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

29 Mawrth: Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb i Erthygl 50, gyda chwestiynau yn dilyn.

4 Ebrill: Arweiniodd y Prif Weinidog ddadl ynghylch: Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Llywodraeth Cymru

29 Mawrth: Y Prif Weinidog Carwyn Jones – “Rydyn ni wedi ymrwymo i Brexit synhwyrol a fydd yn diogelu dyfodol Cymru”.

30 Mawrth: Y Bil Diddymu Mawr: Economi Cymru angen eglurder a sicrwydd - Carwyn Jones.

30 Mawrth: Cymru'n ehangu ei gorwelion, gan ddenu €66m i hybu arloesedd (Horizon 2020).

30 Mawrth: Cyryclau Gorllewin Cymru yr aelod diweddaraf o’r teulu o Enwau Bwydydd Gwarchodedig yng Nghymru.

30 Mawrth: Bwrdd newydd a chyfnod newydd i Hybu Cig Cymru.

10 Ebrill: Cymru’n cyrraedd y nod wrth fanteisio i’r eithaf ar £1.8bn o Gronfeydd yr UE.

10 Ebrill: Hwb ariannol gan yr UE sy’n ddechrau Epic ar gyfer y Pasg.

Newyddion

29 Mawrth: Tanio Erthygl 50 yn gwneud hi’n hanfodol symud ymlaen (FUW)

29 Mawrth: Tanio Erthygl 50 (NFU Cymru)

30 Mawrth: Annog Aelodau i wneud yr Arolwg Mynediad i Lafur (NFU Cymru)

30 Mawrth: Papur Gwyn Bil y Diddymu Mawr – ein hymateb ni (NFU Cymru)

3 Ebrill: Undebau ffermio y DU yn pwyso am fframwaith ariannol cyffredin ar ôl Brexit(NFU Cymru)

18 Ebrill: Rhaid i’r Etholiad Cyffredinol beidio â thynnu sylw o hynt Brexit meddai’r FUW.

19 Ebrill: CLA Cymru yn rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad seneddol.

20 Ebrill: Sefydliadau ffermwyr a thirfeddiannwyr y DU yn cyfarfod wrth i etholiad gael ei alw ar Brexit (Cymdeithas Ffermwyr Tenant)

27 Ebrill: ASau yn cefnogi galwad y CLA am sicrwydd i helpu i fwydo’r wlad (cynllun gweithwyr mudol).

3.       Y diweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

29 Mawrth: Datganiad gan y Cyngor Ewropeaidd (Erthygl 50) ar hysbysiad y DU.

29 Mawrth: Sylwadau gan yr Arlywydd Donald Tusk yn dilyn hysbysiad y DU.

31 Mawrth: Sylwadau gan yr Arlywydd Donald Tusk am y camau nesaf yn dilyn hysbysiad y DU.

25 Ebrill: Cynllun Môr y Gogledd ar gyfer pysgodfeydd: Y Cyngor yn barod i negodi â Senedd Ewrop.

29 Ebrill: Mae Cyngor Ewropeaidd arbennig wedi cytuno ar ganllawiau'r Cyngor Ewropeaidd (Erthygl 50) ar gyfer trafodaethau Brexit.

Y Comisiwn Ewropeaidd

29 Mawrth: Erthygl 50 o'r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd - Taflen Ffeithiau.

29 Mawrth: Cofrestru Menter Dinasyddion Ewropeaidd yn gwahodd y Comisiwn i wella diogelwch i bobl sy'n perthyn i leiafrifoedd cenedlaethol ac ieithyddol a chryfhau amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol yn yr Undeb.

5 Ebrill: Datganiad gan Michel Barnier yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop.

5 Ebrill: Araith gan yr Arlywydd Juncker yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop.

27 Ebrill: Pecyn troseddau mis Ebrill: penderfyniadau allweddol: Y Comisiwn yn galw ar y DU i warchod cynefinoedd gorgors [yn Lloegr], a'r Comisiwn yn gofyn i'r DU fabwysiadu rheolau cyson yn ymwneud â'r contract ar gyfer defnyddio isadeiledd mewn traffig rheilffordd rhyngwladol.

3 Mai: Cyfarwyddebau negodi drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer trafodaethau Erthygl 50 gyda'r Deyrnas Unedig.

3 Mai: Y Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd cam nesaf ym mhroses Erthygl 50 drwy argymell cyfarwyddebau negodi drafft.

3 Mai: Araith gan Michel Barnier yn y gynhadledd i'r wasg ar fabwysiadu argymhelliad y Comisiwn ar y cyfarwyddebau negodi drafft.

Senedd Ewrop

28 Mawrth: Maer Llundain: “Byddwn yn dal yn rhan o'r teulu Ewropeaidd”.

29 Mawrth: Erthygl 50: sut y bydd dyfodol cysylltiadau UE-DU yn cael ei benderfynu.

29 Mawrth: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Aelodau Senedd Ewrop yn pennu amodau ar gyfer cymeradwyo cytundeb tynnu'n ôl y DU.

4 Ebrill: Llywydd yr Almaen: "Mae Ewrop yn gymhleth ond yn werth yr ymdrech".

4 Ebrill: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Aelodau Senedd Ewrop i roi pobl yn gyntaf yn ystod y trafodaethau.

5 Ebrill: Aelodau Senedd Ewrop yn cymeradwyo €71.5 miliwn mewn cymorth yr UE ar ôl trychinebau naturiol yn y DU, Cyprus, Portiwgal.

6 Ebrill: Llinellau coch yn y trafodaethau Brexit - penderfyniad y Senedd.

20 Ebrill: Tajani yn Llundain: “Mae dinasyddion yn haeddu sicrwydd ynghylch eu dyfodol ar ôl Brexit”.

28 Ebrill: Mae perthyn i'r UE yn beth da, medd nifer gynyddol o ddinasyddion.

3 Mai: Cysylltiadau UE-NATO: dadl gyda Ysgrifennydd NATO General Stoltenberg.

Newyddion Ewropeaidd

23 Mawrth: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Rhaid i'r UE ddangos undod wrth amddiffyn hawliau pob dinesydd sy'n byw ac yn gweithio mewn rhanbarthau a dinasoedd. (Pwyllgor y Rhanbarthau)

28 Mawrth: Galwodd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol am i ranbarthau gael eu cynrychioli yn nhrafodaethau Brexit.

27 Ebrill: Merkel yn rhybuddio yn erbyn 'camargraffiadau' y DU am Brexit. (adroddiad CNN)

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

29 Mawrth: Hysbysodd Syr Tim Barrow, Cynrychiolydd Parhaol y DU i'r Undeb Ewropeaidd, yn ffurfiol swyddfa Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, o fwriad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd o dan Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon.

30 Mawrth: Cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr.

30 Mawrth: Canllawiau i fusnesau ar Fil y Diddymu Mawr.

30 Mawrth: Sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau yn y DU wrth i'r trafodaethau gychwyn ar berthynas newydd ag Ewrop.

31 Mawrth: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May gyda'r Prif Weinidog Rutte o'r Iseldiroedd yn dilyn llythyr y DU o hysbysiad i'r Cyngor Ewropeaidd.

2 Ebrill: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May gyda Prif Weinidog Fabian Picardo am sut y byddwn yn gweithio gyda Gibraltar i gael y canlyniad gorau posibl ar ôl Brexit.

5 Ebrill: Araith yr Arglwydd Bridges i Gynghrair o Siambrau Metropolitan Ewropeaidd.

6 Ebrill: Araith yr Arglwydd Bridges yng Nghyngres Defnyddwyr Ffederasiwn Cenedlaethol y Defnyddwyr

6 Ebrill: Cyfarfu'r Prif Weinidog Theresa May gyda Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk am drafodaethau yn dilyn tanio Erthygl 50.

7 Ebrill: Y DU yn gadael yr UE: beth sydd angen i chi ei wybod - Gwybodaeth ar gyfer dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU sy'n byw, yn gweithio, yn ymweld ac yn astudio yn yr UE.

26 Ebrill: Cyfarfu'r Prif Weinidog Theresa May â Llywydd Jean-Claude Juncker y Comisiwn Ewropeaidd yn Downing Street.

27 Ebrill: Cyfarfu'r Prif Weinidog May â Juncker, Llywydd y Comisiwn, yn Llundain.

Tŷ’r Cyffredin

29 Mawrth: Arweiniodd Prif Weinidog y DU ddadl ynghylch Erthygl 50.

30 Mawrth: Datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, David Davis, ynghylch Deddfu ar gyfer Gadael yr UE , ynghyd â chwestiynau.

19 Ebrill: Gwnaeth y Prif Weinidog gynnig i gael Etholiad Cyffredinol Seneddol Cynnar, y cytunwyd arno, ar ôl trafodaeth, o 522 pleidlais i 13.

19 Ebrill: Trafodaeth ar Adran 5 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1993 - rhaglen gydgyfeirio'r DU - y cytunwyd arni.

20 Ebrill: Cyflwyno adroddiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol “Gwersi a ddysgwyd o Refferendwm yr UE”, ynghyd â chwestiynau.

26 Ebrill: Cwestiynau ar Adael yr UE: Yr effaith ar Gymru, a atebwyd gan Alun Cairns a Guto Bebb, a chwestiynau ar Fil y Diddymu Mawr.

29 Mawrth: Archwiliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig brofiad twristiaeth wledig yng Nghymru a'r Alban.

29 Mawrth: Y potensial ar gyfer cytundeb masnachu rhwng y DU a'r UDA a archwiliwyd gan y Pwyllgor Masnach Ryngwladol, mae'r dystiolaeth wedi'i chyhoeddi.

30 Mawrth: Ychwanegodd y Pwyllgor Gweithdrefn at gylch gorchwyl ymchwiliad Bil y Diddymu Mawr.

18 Ebrill: Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sesiwn dystiolaeth ar effaith Brexit ar y diwydiannau creadigol, twristiaeth a'r farchnad sengl ddigidol.

19 Ebrill: Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cymreig sesiwn dystiolaeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru ar ôl Brexit.

19 Ebrill: Edrychodd yPwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y setliad ariannol posibl ar gyfer tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd.

19 Ebrill: Parhaodd Pwyllgor Materion yr Alban ei ymchwiliad i le'r Alban yn Ewrop gyda sesiwn yn archwilio goblygiadau cyfansoddiadol proses Brexit a'r setliad.

4 Ebrill: Mae Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod i'r casgliad yn ei adroddiad nad oes sail i honiad y Llywodraeth bod “dim bargen yn well na bargen wael” heb asesiad economaidd o “dim bargen” a heb dystiolaeth bod camau'n cael eu cymryd i liniaru effeithiau niweidiol canlyniad o'r fath. Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys y canlynol: Yr amserlen ar gyfer dod i gytundeb; Gibraltar; y taliad ymadael posibl; sicrhau Cytundeb Masnach Rydd DU-UE (FTA); yr Undeb Tollau; cytundebau masnach rydd gyda gwledydd y tu allan i'r UE; cydweithio yn y frwydr yn erbyn troseddu a therfysgaeth; mewnfudo; ymgynghori â gweinyddiaethau datganoledig; Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon; lleihau'r tarfu ar fusnes pan fyddwn yn gadael yr UE.

7 Ebrill: Mae adroddiad y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd yn dweud bod yn rhaid i'r Llywodraeth barhau i ystyried cynigion yr UE yn ystod y ddwy flynedd nesaf, er bod y DU ar fin gadael yr UE.

12 Ebrill: Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol dylai unrhyw refferendwm yn y DU yn y dyfodol dalu sylw i'r gwersi a ddysgwyd o gynnal y refferendwm ar Brexit, gan gynnwys y niwed i enw da'r Gwasanaeth Sifil a'r diffyg paratoi ar gyfer y naill neu'r llall o'r canlyniadau posibl.

12 Ebrill: Gallai Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth wneud mwy i adlewyrchu'r cyfleoedd yn sgil Brexit - adroddiad y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

29 Mawrth  – 26 Ebrill: Mae Cyd-bwyllgor Hawliau Dynol wedi cyhoeddi llawer o dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei ymchwiliad The Government’s proposed derogation from the ECHR.

11 Ebrill: Mae'r Pwyllgor Materion yr Alban wedi cyhoeddi dau lythyr ar gysylltiadau rhyng-lywodraethol, i Angela Constance ASA ac i Damian Green AS.

19 Ebrill: Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad  Amaethyddiaeth yng Nghymru ar ôl Brexit: Y Gynghrair Cefn Gwlad - tystiolaeth ysgrifenedig; Hybu Cig Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig; CLA - tystiolaeth ysgrifenedig.

20 Ebrill: Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Dr Liam Fox, ynghylch opsiynau masnach yn y DU y tu hwnt i adroddiad 2019 (Y Pwyllgor Masnach Ryngwladol).

26 Ebrill: Rhyddhaodd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth am drafodaethau masnach yr UE.

27 Ebrill: Ystadegau'r Llywodraeth yn annigonol ar gyfer anghenion amaethyddiaeth - cyhoeddodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei adroddiad Feeding the nation: labour constraints into the agriculture and horticulture labour markets.

29 Ebrill: Cyhoeddodd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol ei adroddiad The Future of Chemicals Regulation after the EU Referendum.

1 Mai: Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cartref ei adroddiad ‘Hate crime: abuse, hate and extremism online’.

2 Mai: Mae ystyriaeth fanwl o'r berthynas rhwng Gweinidogion a gweision sifil yn hanfodol wrth i Whitehall yn wynebu'r heriau o adael yr Undeb Ewropeaidd - meddai'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol yn ei adroddiad.

2 Mai: Rhaid i'r Llywodraeth weithredu ar frys i roi terfyn ar risg Brexit i'r diwydiant niwclear - adroddiad y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

2 Mai: Anogir y Senedd nesaf i graffu ymhellach ar gynigion Bil y Diddymu Mawr yn ôl y Pwyllgor Gweithdrefn yn ei adroddiad: Matters for the Procedure Committee in the 2017 Parliament.

2 Mai: Cyhoeddodd y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol adroddiad ar Leaving the EU: negotiation priorities for energy and climate change policy.

2 Mai: Cyhoeddodd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol ymateb y Llywodraeth i'w adroddiad The Future of the Natural Environment after the EU Referendum

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal "cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd".

29 Mawrth: Cafodd datganiad Prif Weinidog y DU ar Brexit: Triggering Article 50 ei ailadrodd, ac fe'i dilynwyd gan ddadl.

30 Mawrth: Cwestiynau ynghylch Brexit: Crime Prevention, ac fe'i dilynwyd gan gwestiynau ar Brexit: Court of Justice of the European Union.

30 Mawrth: Cafodd y datganiad ar Brexit: Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Unionei ailadrodd, ac fe'i dilynwyd gan gwestiynau.

4 Ebrill: Dadl ar gynigion am Brexit: European Union-derived Rights, cytunwyd y cynigion.

6 Ebrill: Cwestiynau ynghylch Brexit: European Parliament Resolution.

6 Ebrill: Ar ôl dadl, nododd y Tŷ adroddiad Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Brexit and the EU Budget.

24 Ebrill: Cwestiynau ynghylch Brexit: Negotiations.

24 Ebrill: Cymeradwywyd cynnig ar Raglen Gydgyfeirio'r DU .

25 Ebrill: Cwestiynau ynghylch Brexit: United Kingdom-Africa Trade and Development.

29 Mawrth: Clywodd Pwyllgor y Cyfansoddiad dystiolaeth flynyddol gan Lywydd a Dirprwy Lywydd y Goruchaf Lys, roedd y pynciau yn cynnwys Brexit a Datganoli.

30 Mawrth: Cyfarfu aelodau o Bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd â phwyllgorau Cynulliad Pobl Portiwgal yn Lisbon, a Bundesrat yr Almaeneg (Cyngor Ffederal) yn Berlin.

31 Mawrth: Lansiodd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE ymchwiliad newydd i bolisi sancsiynau'r DU ar ôl Brexit.

5 Ebrill: Dechreuodd Is-Bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE ymchwiliad byr i Brexit: lles anifeiliaid fferm, gyda thrafodaeth bord gron gydag academyddion ac arbenigwyr y diwydiant.

5 Ebrill: Cyn-lywyddion Eurojust yn cael eu holi am y Warant Arestio Ewropeaidd gan Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE.

6 Ebrill: Cynhaliodd Is-Bwyllgor Materion Allanol yr UE sesiwn dystiolaeth untro ar y Polisi Diogelwch Tramor Cyffredin (CFSP) ar ôl Brexit.

25 Ebrill: Dechreuodd Is-Bwyllgor Cyfiawnder yr UE ymchwiliad newydd i Brexit: hawliau diogelu defnyddwyr gyda sesiwn dystiolaeth.

25 Ebrill: Cynhaliodd Is-Bwyllgor Cyfiawnder yr UE sesiwn dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad newydd i Brexit: hawliau diogelu defnyddwyr.

26 Ebrill: Cafodd Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE dystiolaeth gan Weinidog y Swyddfa Gartref ar Becyn Diogelu Data yr UE.

26 Ebrill: Cynhaliwyd chweched cyfarfod y Grŵp Cyswllt Brexit Anffurfiol, a sefydlwyd gan Bwyllgor Cyswllt Tŷ'r Arglwyddi.

5 Ebrill: Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Economaidd dystiolaeth ynghylch Brexit a'r Farchnad Lafur: 28 Chwefror 2017 - Brexit a'r Farchnad Lafur - tystiolaeth lafar; 08 Mawrth 2017 - Brexit a'r Farchnad Lafur - tystiolaeth lafar; IPPR - tystiolaeth ysgrifenedig; Rhwydwaith Hawliau Ymfudwyr - tystiolaeth ysgrifenedig; Cymdeithas Cyfreithwyr Mewnfudo - tystiolaeth ysgrifenedig; Cyngres Undebau Llafur (TUC) - tystiolaeth ysgrifenedig.

22 Mawrth  – 11 Ebrill: Cyhoeddodd Is-bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE dystiolaeth ynghylch Brexit: ymchwiliad amaethyddiaeth: 08 Mawrth 2017 - Brexit: amaethyddiaeth - tystiolaeth lafar- Tystiolaeth gan George Eustice AS, y Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd  a Bwyd; 01 Mawrth 2017 - Brexit: amaethyddiaeth - tystiolaeth lafar- Tystiolaeth gan yr Athro Nigel Gibbens CBE, Prif Swyddog Milfeddygol; BMPA - tystiolaeth ysgrifenedig; Llywodraeth yr Alban - tystiolaeth ysgrifenedig; Llywodraeth Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig; Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain - tystiolaeth ysgrifenedig.

21 Ebrill: Mae Pwyllgor Cyfiawnder yr UE wedi cael ymateb y Llywodraeth i'w adroddiad ar gyfreithlondeb proses restru sancsiynau'r UE.

3 Mai: Cyhoeddodd Is-bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE ei adroddiad Brexit: amaethyddiaeth, yn enwedig ar y goblygiadau o adael Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a'r Farchnad Sengl.

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

25 Ebrill: Trafodaeth bord gron gyda phobl ifanc i archwilio perthynas yr Alban gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Llywodraeth yr Alban

29 Mawrth: Y Prif Weinidog ar Erthygl 50.

30 Mawrth: Bil y Diddymu Mawr - rhaid peidio lleihau pwerau Holyrood.

26 Ebrill: Cyllid yr UE ar gyfer Bwyd Môr yr Alban.

27 Ebrill: Mudo yn gyrru poblogaeth uchel - mewnfudo o'r EEA yn cynnal lefelau poblogaeth yr Alban.

6.       Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon

Llywodraeth Iwerddon

29 Ebrill: Sylwadau gan Taoiseach Enda Kenny yn dilyn [UE27] y Cyngor Ewropeaidd.

7.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

Tŷ’r Arglwyddi

Leaving the European Union: World Trade Organisation

Arall

Legislating for the UK’s withdrawal from the EU (Dods)

A New Trading Order for the Manufacturing Industry (EEF)

Brexit negotiations [What Think Tanks are thinking] (Gwasanaeth Ymchwil Seneddol Ewropeaidd)

Global Britain - Priorities for trade beyond the European Union (Open Europe)

A skilful exit: What small firms want from Brexit (Ffederasiwn Busnesau Bach)

Striking the right deal: UK–EU migration and the Brexit negotiations (IPPR)

The Impact of the United Kingdom’s withdrawal from the European Union on Scotland, Wales and Gibraltar (Gwasanaeth Ymchwil Seneddol Ewropeaidd)